Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
4 Hydref 2017
Amser y
cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/4647
------
Gweld Cofnod y Trafodion
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd cwestiynau 1-2 a 4–8. Tynnwyd cwestiwn 3 yn ôl. Atebwyd cwestiwn 6 gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2.
Dechreuodd yr eitem am 14.18
Gofynnwyd cwestiynau 1-2 a 4–7. Tynnwyd cwestiwn 3 yn ôl. Atebwyd cwestiynau 6 a 7 gan Weinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet a’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
Dechreuodd yr eitem am 15.05
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith
Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i wneud o'r cyhoeddiad y bydd Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn colli contractau gyda Jaguar Land Rover ar ôl 2020?
Dechreuodd yr eitem am 15.19
Gwnaeth Elin Jones ddatganiad i dalu teyrnged i’r artist diweddar Aneurin Jones.
Gwnaeth Suzy Davies ddatganiad ar gynnig Abertawe i fod yn Ddinas Diwylliant y DU 2021, sydd wedi cyrraedd y rhestr fer.
Gwnaeth Julie Morgan ddatganiad ar gerflun o Mahatma Gandhi a ddadorchuddiwyd ym Mae Caerdydd.
Dechreuodd yr eitem am 15.24
Dechreuodd yr eitem am 15.54
NDM6509
Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr)
David Melding (Canol De Cymru)
Mike Hedges (Dwyrain Abertawe)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod yr angen i liniaru cynhesu byd eang a chefnogi cytundeb Paris o'r 21ain gynhadledd o'r partïon ('Cytundeb Paris') drwy dorri allyriadau carbon a nodi bod hyn yn cyd-fynd â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.
2. Yn nodi bod yr egwyddor datblygu cynaliadwy wedi'i hymgorffori yng ngwaith y Cynulliad gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gomisiynu ymchwil pellach i ddichonoldeb cynllun peilot cyfrifon carbon personol yng Nghymru.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 16.25
NDM6518 Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ar ei 'Ymchwiliad i Strategaeth Gymraeg newydd Llywodraeth Cymru' a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Mai 2017.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 17.06
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM6520 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod prinder meddygon, nyrsys a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill yn peri risgiau i ddiogelwch cleifion a'r gallu i gyflenwi gwasanaethau'n ddiogel.
2. Yn gresynu at fethiant Llywodraeth Cymru i weithredu cynllun gweithlu effeithiol a chynaliadwy ar gyfer GIG Cymru.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
11 |
0 |
30 |
41 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1. Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
1. Yn nodi'r effaith y gall prinder meddygon, nyrsys a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill ei chael ar ddarparu gwasanaethau.
2. Yn croesawu ymrwymiad holl staff GIG Cymru i ddarparu gofal iechyd tosturiol o safon uchel.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
23 |
4 |
14 |
41 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymgynghori â sectorau perthnasol i sicrhau bod cynllunio'r gweithlu yn digwydd mewn modd cydlynol.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
41 |
0 |
0 |
41 |
Derbyniwyd gwelliant 2.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM6520 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi'r effaith y gall prinder meddygon, nyrsys a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill ei chael ar ddarparu gwasanaethau.
2. Yn croesawu ymrwymiad holl staff GIG Cymru i ddarparu gofal iechyd tosturiol o safon uchel.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymgynghori â sectorau perthnasol i sicrhau bod cynllunio'r gweithlu yn digwydd mewn modd cydlynol.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
33 |
9 |
0 |
42 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
Dechreuodd yr eitem am 17.57
Dechreuodd yr eitem am 17.59
NDM6519 Lee Waters (Llanelli)
M4 sy'n addas ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol
Daeth y cyfarfod i ben am 18.26
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 10 Hydref 2017